TEITL |
Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Fframweithiau Cyffredin |
DYDDIAD |
02 Mehefin 2020 |
GAN |
Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd |
Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU adrodd i Senedd y DU yn gyson am faterion sy’n ymwneud â Fframweithiau Cyffredin a'r defnydd dros dro y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud, os o gwbl, o bwerau o dan adran 12 o'r Ddeddf (y 'pwerau rhewi' fel y’u gelwir) er mwyn cynnal cyfyngiadau presennol cyfraith yr UE ar gymhwysedd datganoledig.
Rwy'n hysbysu'r Aelodau bod y seithfed adroddiad o'r fath wedi’i osod yn Senedd y DU ar 20 Mai. Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â'r cyfnod rhwng 26 Rhagfyr 2019 a 25 Mawrth 2020.
https://www.gov.uk/government/publications/european-union-withdrawal-act-and-common-frameworks-report--5